Subscribe to our newsletter:

Sillafu Ail Iaith

Free
iPhone / iPad
Genres:
  • Games
  • Education
  • Educational
  • Word
I want this app
Download from AppStore

Y gêm ydi cwblhau’r geiriau mor gyflym ag sy’n bosib ... cyn i’r cloc dy guro! Mae yna 4 gêm i’w chwarae: • Lluosog • Gwrando • Cyfieithu • Lluniau Mae tri Haen o fewn pob gêm, mae haen 2 yn anoddach na haen 1. Mae haen 3 yn anoddach na haen 2. Rhaid i ti gwblhau’r geiriau trwy glicio ar y bocsys ar waelod y sgrin. Rwyt ti’n ennill pwyntiau am bob ateb cywir. Rwyt ti’n colli pwyntiau am bob ateb anghywir! Mae angen sŵn ar gyfer y gêm Gwrando. Ar ôl cwblhau’r gair yn gywir bydd ‘tic’ yn ymddangos wrth ymyl yr ateb. Bydd y gair nesaf yn dilyn. Mae’n rhaid cael 6 allan o 10 gair yn gywir i agor yr Haen nesaf - dyma sut mae symud ymlaen i Haen 2 ac yna i Haen 3. Rwyt ti’n cael bonws am ateb yn gywir. Os wyt ti’n cwblhau y 10 gair cyn i’r cloc dy guro rwyt ti’n ennill bonws amser. Wyt ti angen help? Mae seren oren ar ochr chwith y sgrin i helpu … ond rwyt ti’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio. Os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr ar y sgôrfwrdd ar ddiwedd y gêm.